NAHT Cymru is calling on candidates, parents and the public to join its nationwide discussion on education.
Our manifesto outlines our five key priorities for education: well-being, curriculum reform, funding, additional learning needs (ALN) and accountability. We are asking all election candidates to take the NAHT Cymru pledge on the future of education and is holding hustings across Wales in some of the most closely contested seats to give candidates the opportunity to share their vision for education. Join the conversation on Twitter via #NAHTCymruPledge.
On the launch of the campaign Laura Doel, director of NAHT Cymru, said: “There’s never been a more critical time for education in Wales. We’re looking for a government that is going to work with the profession to invest in schools, support school leaders and commit to a fully-funded education system.”
Kerina Hanson, president of NAHT Cymru, said: "Education reform in Wales is about ensuring our children and young people are well prepared for the future. Education forms the foundation for the future of Wales, its prosperity and ability to sustain itself. As such it deserves to be at the forefront of policymaking and investment. We have a fantastic opportunity to make our education system world-leading, which in turn will support the future of Wales and its people. We are looking to the government to support the vision for Wales, to nurture a system in which innovation can thrive, to help schools deliver the support they need for their school communities, to value education as the way forward for Wales. We have a dedicated workforce ready to take on the challenge of reform, but we need a commitment from our government to work alongside the profession to drive reform through proper investment and sustained support."
NAHT Cymru yn galw am i addysg fod wrth wraidd etholiadau Senedd 2021
Mae NAHT Cymru yn galw ar ymgeiswyr, rhieni a'r cyhoedd i ymuno â'u trafodaeth am addysg ledled y wlad.
Mae ein maniffesto yn amlinellu ein pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer addysg: llesiant, diwygio'r cwricwlwm, cyllido, anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac atebolrwydd. Rydym yn gofyn i bob ymgeisydd yn yr etholiad ymrwymo i addewid NAHT Cymru ar ddyfodol addysg, a byddwn yn cynnal hystingau ledled Cymru yn rhai o'r seddi mwyaf ymylol, er mwyn rhoi cyfle i ymgeiswyr rannu eu gweledigaeth ar gyfer addysg. Ymunwch â'r sgwrs ar Twitter trwy #AddewidNAHTCymru.
Meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, wrth lansio’r ymgyrch: “Ni fu erioed amser mwy tyngedfennol i addysg yng Nghymru. Rydyn ni am weld llywodraeth sy'n mynd i weithio gyda'r proffesiwn i fuddsoddi mewn ysgolion, cefnogi arweinwyr ysgolion ac ymrwymo i system addysg wedi'i hariannu'n llawn.”
Meddai Kerina Hanson, llywydd NAHT Cymru: "Mae diwygio addysg yng Nghymru yn ymwneud â sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Addysg yw’r sylfaen ar gyfer dyfodol Cymru, ei ffyniant a'i gallu i gynnal ei hun. Yn hynny o beth mae'n haeddu bod ar flaen y gad o ran llunio polisïau a buddsoddi. Mae gennym gyfle gwych i wneud ein system addysg yn un sydd ymysg y gorau yn y byd, a fydd yn ei thro yn gymorth i ddyfodol Cymru a'i phobl. Rydym yn dibynnu ar y llywodraeth i wireddu’r weledigaeth ar gyfer Cymru, meithrin system lle gall arloesi lwyddo, helpu ysgolion i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar gyfer cymunedau eu hysgol, a gosod gwerth ar addysg fel y ffordd ymlaen i Gymru. Mae gennym weithlu ymroddedig yn barod i ymgymryd â her diwygio, ond mae angen ymrwymiad gan ein llywodraeth arnom, i weithio ochr-yn-ochr â'r proffesiwn i weithredu’r newidiadau hynny trwy fuddsoddiad go-iawn a chefnogaeth barhaus."
Hustings events
NAHT Cymru is running a series of online hustings events via Zoom.
Please note that registration is required in advance. After registering, you will receive a confirmation email containing information about joining the meeting. All meetings commence at 5pm.
Caerphilly hustings
Watch the recording of the Caerphilly hustings event on 19 April with Liberal Democrat candidate Steve Aicheler, Conservative candidate Steven Mayfield, Plaid Cymru candidate Delyth Jewell and Labour candidate Hefin David.
Llanelli hustings
Watch the recording of the hustings event on the 19 April with Conservative candidate Stefan Ryszewski, Labour candidate Lee Waters and Plaid Cymru candidate Helen Mary Jones
Wrexham hustings
Watch the recording of the hustings event on 22 April with Liberal Democrats candidate Tim Sly, Conservative candidate Jeremy Kent and Plaid Cymru candidate Jack Morris.
Vale of Glamorgan hustings
Watch the recording of the hustings event on 26 April with Liberal Democrats candidate Sally Stephenson, Conservative candidate Matt Smith, Gwlad candidate Karl James Langford and Plaid Cymru candidate Richard Grigg.
Vale of Clwyd hustings
Watch the recording of the hustings event on 27 April with Conservative candidate Gareth Davies, Reform UK candidate Peter Dain, Plaid Cymru candidate Glenn Swingler and Labour candidate Jason Mathew McLellan.
Cardiff Central hustings
Watch the recording of the hustings event on 28 April with Conservative candidate Calum Davies, Plaid Cymru candidate Wiliam Rees, Liberal Democrats candidate Heath Marshall and Labour candidate Jenny Rathbone.
Neath hustings
Watch the recording of the hustings event on 3 May with Jeremy Miles, Labour, Sioned Williams, Plaid Cymru, Megan Poppy Lloyd, Green party and Stephen Hunt, independent.
Digwyddiadau Hysting
Mae NAHT Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hysting ar-lein trwy Zoom.
Sylwch fod angen cofrestru ymlaen llaw. Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau, yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ymuno â'r cyfarfod. Bydd pob cyfarfod yn cychwyn am 5pm.
Hystingau Caerffili
https://youtu.be/zvNNHXp52V0
Hystingau Llanelli
https://youtu.be/1NxFrg7oxAc
Hystingau Wrecsam
https://youtu.be/bDZKvUuXxCQ
Hystingau Bro Morgannwg
https://youtu.be/vq-_g-MjOj8
Hystingau Dyffryn Clwyd
https://youtu.be/FEr6PI1KgOA
Hystingau Canol Caerdydd
https://youtu.be/eFAX0RGJ0gw
Hystingau Castell-nedd
https://youtu.be/RnYf8xxiXdk