NAHT Cymru continues to call for sufficient, equitable and transparent school funding in Wales. Welsh government and the 22 local authorities have an opportunity to address some of the issues - and we will continue our campaign in Wales to improve matters. However, the level of funding allocated by the UK Treasury and sent into Wales via the Barnett Formula is simply not enough.
School leaders from Wales have come together to write a letter to the chancellor explaining how the current school funding crisis is impacting on their schools.
We are calling on all head teachers and chairs of governors in the 22 local authorities in Wales to add their name to the letter, to show the Chancellor the strength of feeling across the nation.
Click here for more information and to add your name to the letter.
Arweinwyr ysgolion yng Nghymru: arwyddwch lythyr at y Canghellor yn galw am weithredu ar gyllido ysgolion.
'Y Cyfle Olaf'
Mae NAHT Cymru’n parhau i alw am gyllido digonol, cyfiawn a thryloyw ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru a’r 22 o awdurdodau lleol gyfle i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn - a byddwn yn parhau â’n hymgyrch yng Nghymru i wella’r sefyllfa. Serch hynny, nid yw lefel y cyllido a ddyrennir gan Drysorlys y DU, ac a anfonir i Gymru drwy Fformiwla Barnett, yn ddigon o bell ffordd.
Mae arweinwyr ysgolion yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i ysgrifennu llythyr at y Canghellor yn egluro sut mae'r argyfwng cyllido presennol mewn ysgolion yn effeithio ar eu hysgolion nhw.
Rydym yn galw ar bob pennaeth a chadeirydd llywodraethwyr yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ychwanegu eu henwau at y llythyr, i ddangos i'r Canghellor beth yw cryfder y teimlad ar draws y wlad.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i ychwanegu eich enw at y llythyr.
First published 02 July 2019
First published 04 July 2019