Home Menu

NAHT Cymru

NAHT Cymru is the definitive voice of school leaders in Wales. We keep the best interests of children at the heart of everything we do.

Along with our colleagues in England and Northern Ireland, we are here to defend and extend the rights of our members, as well as provide advice, protection and support specific to school leaders throughout Wales

NAHT Cymru yw llais diffyniadol arweinwyr ysgolion yng Nghymru. Mae buddiannau gorau plant yng nghraidd popeth a wnawn.

Ynghyd â'n cydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym yn bodoli i warchod ac ymestyn hawliau ein haelodau, yn ogystal â darparu cyngor, diogelwch a chymorth sy'n benodol i arweinwyr ysgolion ledled Cymru.

'Nothing generous' about government pay recommendation, says NAHT Cymru

NAHT Cymru responds to IWPRB report and Minister for Education announcement - Monday 22 July 2019

The first report of the new Independent Welsh Pay Review Body (IWPRB) is published today (Mon 22 July), alongside a fanfare from the Welsh government increases to pay for some teachers. 

Rob Williams, Director of NAHT Cymru, which represents leaders in the majority of schools in Wales, said: “We have consistently called for a fully funded 5% increase for all teachers and leaders. In this announcement whilst there’s a welcome 5% increase for new teachers, longer serving professionals will get only 2.75%. It is disappointing that the Welsh government has not seen the importance of a pay award where everyone benefits equally.

“Pay for school staff has to be competitive in the context of the wider labour market, and currently it is not. In contrast to the general trend in other OECD countries, teachers’ statutory salaries in Wales fell in real terms by about 10 per cent between 2005 and 2017. 

“The most concerning aspect to this announcement, however, is the uncertainty about funding. NAHT Cymru’s evidence to the IWPRB was crystal clear; school leaders told us in no uncertain terms that all pay awards must be fully funded. School budgets cannot absorb pay awards on top of the recent and ongoing pressures they have faced – pension contribution increases, rising costs of services, inflation costs including energy increases.

“The Welsh Assembly’s Children, Young People and Education committee’s recently published school funding report painted a stark picture. School budgets are at breaking point already and new reforms, whilst welcome, come at a cost. It would be shameful, and somewhat perverse, if Wales’ schools were placed in the invidious position of facing staff redundancies in order to balance the school budget due to an unfunded teachers’ pay award. There’s nothing generous about this announcement, despite what the Welsh government says.”

Cyhoeddir adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd Cymru (IWPRB) heddiwynghyd â chodiad cyflog i rai athrawon gan Lywodraeth Cymru

 

Ymateb NAHT Cymru i adroddiad IWPRB a chyhoeddiad y Gweinidog Addysg - Dydd Llun 22 Gorffennaf 2019

 

Does 'dim byd hael' am argymhellion cyflogau’r llywodraeth, meddai NAHT Cymru

Cyhoeddir adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd Cymru (IWPRB) heddiw, (dydd Llun 22 Gorffennaf) ynghyd â chodiad cyflog i rai athrawon gan Lywodraeth Cymru

Meddai Rob Williams, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr yn y mwyafrif o ysgolion Cymru: “Rydym wedi galw'n gyson am gynnydd o 5% wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer  pob athro ac arweinydd. Yn y cyhoeddiad hwn, tra bod cynnydd o 5% i athrawon newydd i’w groesawu, dim ond 2.75% fydd gweithwyr proffesiynol sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth yn ei gael. Mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweld pwysigrwydd dyfarniad cyflog lle mae pawb yn elwa'n gyfartal.

 

“Mae'n rhaid i gyflog staff mewn ysgolion fod yn gystadleuol yng nghyd-destun y farchnad lafur ehangach, ac ar hyn o bryd nid felly mae pethau. Yn wahanol i'r duedd gyffredinol mewn gwledydd OECD eraill, gostyngodd cyflogau statudol athrawon yng Nghymru o ran eu gwir werth tua 10 y cant rhwng 2005 a 2017.

“Fodd bynnag, yr agwedd o’r cyhoeddiad hwn sy’n peri’r pryder mwyaf yw'r ansicrwydd ynghylch cyllido. Roedd tystiolaeth NAHT Cymru i'r IWPRB yn berffaith glir; dywedodd arweinwyr ysgolion wrthym yn bendant iawn bod yn rhaid i unrhyw gynnydd mewn cyflogau gael ei ariannu'n llawn. Ni all cyllidebau ysgolion gynnwys codiadau cyflog ar ben y pwysedd diweddar a pharhaus y maent wedi'i wynebu - cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn, costau cynyddol gwasanaethau, costau chwyddiant gan gynnwys cynnydd ym mhris ynni.

“Roedd adroddiad ar gyllido ysgolion a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi darlun digyfaddawd. Mae cyllidebau ysgolion bron â thorri eisoes, ac er bod diwygiadau newydd i’w croesawu, maent yn costio. Byddai'n gywilyddus, ac ychydig yn rhagrithiol, pe bai ysgolion Cymru yn cael eu gosod yn y sefyllfa annymunol o wynebu diswyddo aelodau staff er mwyn cydbwyso cyllideb yr ysgol oherwydd codiad yng nghyflog athrawon heb arian i’w gynnal. Does dim byd hael am y cyhoeddiad hwn, er gwaethaf yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud.” 

First published 23 July 2019

First published 23 July 2019

Please give us your views  on the current consultations

 

Welsh Government

Independent review of school teachers pay and conditions in Wales

OPENED 18 January 2018 - CLOSES 1 March 2018

NAHT Cymru draft response of independent review

Support for doctoral study
OPENED 8 December 2017 - CLOSES 2 March 2018

The Education (Amendments Relating to Teacher Assessment Information) (Wales) Regulations 2018
OPENED 14 November 2017 – CLOSES 30 January 2018

Recent consultations

  Title Created Download
application/vnd.openxmlformats-officedocument.wordprocessingml.document 05/02/2018 Download
application/msword 05/02/2018 Download
;